Mae tudalen yn cynnwys cyfres o elfennau - testun, lluniau, sioe sleids a.y.y. Pan ydych yn clicio ar 'Golygu' dangosir elfennau'r dudalen fel hyn:
Tudalen: Cyflwyniad (home)
Diweddarwyd y 09-04-2015 21:57:59 gan John. Cyhoeddwyd y 09-04-2015 22:03:07 gan John.
--- Testun --- Tyfu Hypethelma Disporia Mae'r planhigyn yma'n tyfu'n dda unwaith mae wedi ymsefydlu. ... |
--- Llun --- Delwedd: galleries/gardens/crIm10010001.jpg.jpg
|
--- Gofod --- |
--- Testun --- Byddwch yn ofalys i beidio orddyfrio'r planhigyn, nid ydi'r planhigyn yma'n nofiwr da. |
Ar waelod y dudalen mae bar efo botwm 'Gadael' sy'n mynd a chi'n ol i sgrin Golygu Tudalen.
Nodiwch: pan ydych yn pwyso (clicio) ar y botwm 'Gadael', cyfansoddir yr elfennau i dudalen sydd i weld ar y sgrin 'Golygu Tudalen'. Beth bynnag, dim ond copi golygol yw hwn. I wneud y dudalen yn weladwy i'r cyhoedd mae rhaid cyhoeddi'r dudalen.
Mae sawl fath o elfen ar gael i roi ar eich tudalen. Mae'r rhestr berthnasol yn dibynnu ar pa fodiwl sydd wedi ei osod ar eich gwefan. Dyma'r elfennau mwya cyffredin, cliciwch ar yr enw i fyndi dudalen â disgrifiad llawn.
I drefnu'r elfennau, e.e. symud, dileu, golygu elfen, neu gosod elfen newydd, cliciwch ar y panel glas golau sy'n dangos yr elfen. Bydd y bwydlen fel hyn yn ymddangos:
Os mae'r elfen â chlicwyd arni yn un â allwch olygu, bydd y bwydlen yn edrych fel hyn:
Nid yw'r optiwn yma ar gael i pob elfen. E.e. nid oes modd olygu 'teitl y tudalen' na 'llinell newydd'. (Os nad ydych yn fodlon efo'r teitl, allwch ddefnyddio elfen 'testun' yn ei le.)
I olygu'r elfen cliciwch ar 'Golygu' a deith sgrin golygu'r elfen i'r golwg. Mae gwahanol fathau o sgrin yn dibynnu ar fath yr elfen (testun, llun, a.y.y.). Disgrifir y wahanol sgriniau ar y tudalennau olynol:
All symud elfen i le arall ar y dudalen. Pan ddewisir yr opsiwn yma, gwelir y ffenestr yma:
Cliciwch ar lle ydych eisio symyd yr elfen yma.
DiddymuCliciwch ar yr elfen lle ydych eisio symud yr elfen wreiddiol, gwelir y ffenestr yma:
Gallwch glicio ar y botwm 'Diddymu' unrhyw dro i orffen heb symud yr elfen.
Pan ydych yn clicio ar yr opsiwn yma, mae'r ffenestr ganlynol yn ymweld:
Mae o'n gwneud fel mae o'n deud!
Mae dewis un o'r optiynnau yma yn achosi fenestr rhywbeth tebyg i hyn i ddod i'r golwg:
Fydd y rhestr yn dibynnu ar baramedrau’r wefan, am nad yw pob math o elfen ar gael pob tro.
Cliciwch ar y fath o elfen ydych eisio, osodir yr elfen ar y dudalen.
Os nid oes ddim cynnwys ar y dudalen eto, mae'r sgrîn yn edrych rhywbeth fel hyn:
Tudalen: Cyflwyniad (home)
Ni Ddiweddarwyd Erioed Ni Chyhoeddwyd Erioed
Ac ar ochr dde y bar offeryn ar waelod y dudalen mae'r botynmau:
Fel y gwelwch, mae 'na fotwm ar gyfer ychwannegu elfen. Mae hwn yn gweithio'n union yr un ffordd a ychwannegu elfen ar dudalen sy'n bodoli (gweler "Gosod Elfen" isod).