Dangosir rhestr o cyfarfodydd y cyngor o blwyddyn yn ôl tan blwyddyn i heddiw.
Mae bosib newid y dyddiadau terfyn, a chlicio ar y botwm "Ail-lwytho" os ydych eisio gweld cyfnod gwahanol. Hefyd allwch glicio ar y saethau bach wrth ochr y teitlau "Dyddiad" ac "Amser" i ddangos y cyfarfodydd a'r dyddiadau'n cynyddu neu gostwng. (Argymhellir trefnu'r amser gyntaf, ac wedyn y dyddiad i gael y trefn iawn).
Ar waelod y dydalen mae botwm "Cyfarfof Newydd". Wrth glicio ar hwn mae bosib ychwanegu manylion cyfarfod newydd i'r calendr. Ar y sgrin cyfarfod newydd bydd y rhan fwyaf o'r bylchau wedi eu llenwi'n barod, ac yr unig beth bydd eisio newid fel arfer yw y dyddiad, ac efallai'r lleoliad. Mae'r gwerthiannau yma'n dod o Gosodiadau (Pecyn Cyngor), ac mae bosib newid rhein wrth glicio ar y botwm 'Gosodiadau' ar waelod tudalen rhestr y cyfarfodydd.
Os mae gennych rhestr hir o gyfarfodydd i ychwanegu i'r calendr, e.e. gosod cyfarfodydd y blwyddyn nesaf, defnyddiwch yr optiwn yma (ar y bwydlen pop-up pan ydych yn clicio ar cyfarfod).
Mae'n bosib ail adrodd cyfarfod pob wythos, pob mis ar yr un dyddiad, ar yr un diwrnod pob mis (e.e. yr ail dydd Mawrth o'r mis - yn dibynnu ar y cyfarfod wreiddiol).
Mae'r system yn creu copiau o'r cyfarfod ar y dyddiadau ydych wedi penodi. Mae wedyn yn bosib golygu'r cyfarfodydd fesyl un.
Unwaith mae'r cyfarfod ar y calendr, mae bosib cysylltu dogfennau â'r cyfarfod, h.y. agenda neu cofnodion. Cliciwch ar 'Dogfennau' ar y bwydlen 'pop-up' wrth glicio ar y cyfarfod.