Wrth glicio ar 'Dogfennau' ar y bwydlen 'pop-up' ar ôl clicio ar y cyfarfod, cewch sgrin sy'n dangos manylion y cyfarfod, a pa ddogfennau sydd wedi eu huwchlwytho.
I uwchlwytho dogfen o'ch cyfeiriadur eich hun, cliciwch ar y botwm "Uwchlwytho" ar waelod y sgrin. Bydd 'pop-up' yn gofyn i chwi ddewis y fath o ddogfen, e.e. "Agenda" neu "Cofnodion".
Wedi clicio ar un o'r rhein welwch 'pop-up' a botwm 'Pori..' (neu 'Choose File' yn dibynnu ar eich porwr a pa iaith mae o'n defnyddio). mae clicio ar hwn yn gadael i chi ddewis dogfen (ffeil) oddi ar cyfrifiadur eich hun.
ARGYMHELLID DEFNYDDIO DOGFENNAU PDF I OSOD AR Y WE. Mae bosib darllen dogfennau PDF o bron unrhyw system, heb meddalwedd ychwanegol.
Ar ôl dewis dogfen mae rhaid i chi ddweud ym mha iaith mae'r ddogfen. Mae hyn yn ffeithio ar syt mae'r ddogfen yn ymddangos ar tudalennau eich wefan. E.e. os ydych wedi uwchlwytho dogfennau Cymraeg yn unig, ac mae tudalennau Saesneg ar eich wefan, bydd linc ar y dudalen Saesneg i "Google Translate" ar gyfer y ddogfen. Nid yw hyn yn gyfieithiad berffaith, on mae'n rhoi syniad i'r darllenwr beth sy'n cael ei drafod yn y ddogfen.
SYLWCH: Os ydych wedi uwchlwtho dogfen mewn cysylltiad â cyfarfod, ac wedyn yn newid dyddiad y cyfarfod yn y 'Pecyn Cyngor', bydd y ddogfen dal i fod mewn cysylltiad a'r cyfarfod. Os ydych yn newid y dyddiad ar sgrin digwyddiadau cyffredinol, fe gollir y cysylltiad.