Testun

Mae Cradur.com yn defnyddio meddalwedd golygu tinyMCE ar gyfer golygu testun ar eich gwefan.

Golygydd hawdd i'w ddefnyddio ydi hwn, a set safonol o fotymau (ar fwydlen a bar-offer uwchben yr ardal golygu), yn debyg i'r rhai sydd ar Microsoft Word a.y.y.

Dyma ddisgrifiad byr o'r botymau mwyaf pwysig ar y bar-offer:

Dadwneud - mae hyn yn 'dadwneud' y newidiad diwethaf ydych wedi gwneud wrth olygu'r testun.

Ailwneud - mae hyn yn ail-wneud y newidiad olaf i chi ddadwneud.

Rhestr 'drop-down' o wahanol deuluoedd ffont. dewiswch y testun ydych eisio bod mewn ffont arbennig, cliciwch ar y saeth i'r dde o  'Teulu ffont', dewiswch y ffont ydych eisio.

Pwysig: Mae'n well dim ond defnyddio'r opsiwn yma ar gyfer newid ffont rhan bach o'r testun. Os ydych eisio newid y ffont yn gyffredinol, neu newid i ffont arbennig i fath o destun ar wahanol dudalennau mae gwell defnyddio dalen arddull (CSS) at hyn, ar gyfer cadw teimlad cysondeb ar draws y wefan.

Rhestr 'drop-down'. Dewiswch y testun, cliciwch y saeth i'r dde o  'maint Ffont', a dewiswch y maint ydych eisio.

Pwysig: Am yr un rhesymau a 'Teuluoedd Ffont' peidiwch â defnyddio'r opsiwn yma yn rhy hael.

Trwm - dewiswch y testun ydych eisio bod yn wyneb trwm a chliciwch y botwm yma. Ffordd arall ydy i ddewis y testun a phwyso Ctrl+B ar yr allweddell

Italig - dewiswch y testun ydych eisio bod yn italig a chliciwch y botwm yma. Ffordd arall ydy i ddewis y testun a phwyso Ctrl+I ar yr allweddell.

Alinio i'r chwith - Dewiswch y llinellau ydych eisio alinio a chliciwch ar y botwm yma.

Alinio i'r canol - Dewiswch y llinellau ydych eisio alinio a chliciwch ar y botwm yma.

Alinio i'r dde - Dewiswch y llinellau ydych eisio alinio a chliciwch ar y botwm yma.

Alinio llawn - Dewiswch y llinellau ydych eisio alinio a chliciwch ar y botwm yma.

Rhestr didrenus - Dewiswch y llinellau ydych eisio a chliciwch ar y botwm yma.

Rhestr trenus - Dewiswch y llinellau ydych eisio a chliciwch ar y botwm yma.

Mewnosod/golygu cyswllt - i greu cyswllt i wefan arall, dewiswch y testun sydd am fod yn gyswllt a chliciwch ar y botwm yma. Cwbl ydych eisio yw'r url, e.e. http://www.cradur.com, os ydych eisio cysylltu ag angor ar y dudalen gosodwch enw'r angor ar ddiwedd y url ar ôl '#', e.e. http://www.cradur.com/hafan.html#para1 . Allwch ddewis os mae'r cyswllt am agor yn yr un ffenestr (diffyg) neu mewn ffenestr newydd, a medrych roi teitl - y testun sydd yn ymweld pan ydych yn symud y llygoden ar dros y cyswllt.

(I greu cyswllt i dudalen ar y wefan eich hun defnyddiwch y botwm 'Cyswllt Mewnol' a disgrifir isod.)

I olygu'r manylion yma, gosodwch eich 'cursor' ar y cyswllt a chliciwch y botwm yma eto.

Datgysylltu -  i ddileu cyswllt oddi ar destun , gosodwch eich 'cursor' ar y testun a chliciwch y botwm yma eto.

Cyswllt mewnol - defnyddiwch y botwm yma i osod cyswllt i dudalen arall ar eich gwefan.

Dewiswch y testun sydd am fod yn gyswllt. Pan ydych yn clicio ar y botwm yma, ymddangosir holl dudalennau’r wefan, yn union fel ar sgrin map y wefan. Cliciwch ar y dudalen ydych eisio cysylltu â hi, a newidir y testun yn gyswllt mewnol.

Wedyn, gallech ddefnyddio'r botymau 'Mewnosod/golygu cyswllt' a 'Datgysylltu' i newid manylion neu ddileu'r cyswllt.

Cliciwch ar y botwm yma i greu linc i un o'ch dogfennau chi.

Ymddangosir sgrîn lle rydych medru dewis yr amlen a'r ddogfen rydych eisio lincio iddi.

Bwydlen tabl - rhestr offwythiannau sy'n gweitho ar tabl.

Mae tabl yn ddefnyddiol iawn i ddangos manylion gwybodaeth:

Data
  taldra(cm) pwysau (kg)
Arthur 1.78 88.1
Brian 1.67 70.3

Cliciwch ar y botwm wedyn ar 'Mewnosod tabl' a hofrenwch dros y gogor i ddewis faint o rhesi a colfnau sydd eisi. Pan ydych yn dod yn ol i'r golygydd allwch osod y manylion yn y tabl. All newid y rhan fwyaf o'r paramedrau yn hwyrach wrth glicio ar y botwm yma eto tan mae'ch 'cursor' ar y tabl.