Dogfennau

Mae bosib i chi uwchlwytho dogfen i'ch wefan a creu linc iddi o dudalen eich wefan. Bydd eich darllenwyr felly yn medru gweld y ddogfen, ar amod bod gennynt y meddalwedd perthnasol.

Y fformat mwyaf cyffredin i dogfennau ar y we yw PDF ('Portable Document Format') gan Adobe. Mae meddalwedd darllen PDF ar gael yn rhad ac am ddim, ac hefyd yn dod ynghlwm a'r porwyr cyffredin (Firefox, IE, Chrome a.y.y). Yn wahanol i e.e. Microsoft Word, lle mae rhaid i'r darllenwr brynnu'r meddalwedd ar gyfer darllen dogfen fformat '.DOC'.

Cliciwch yma i ddarllen am syt i gyfnewid dogfen i fformat PDF.

Cyn medru gosod linc i ddogfen o dudalen y wefan, mae rhaid uwchlwytho'r ddogfen i'r gweinydd gwe. Mae'r dogfennau yn cael ei trefnu mewn amlenau. Mae'r dudalen yma yn dangos i chi syt i weithio efo amlenau, a'r dogfennau sydd ynddyn nhw.

Pan ydych yn dewis optiwn 'Dogfennau' o'r brif fwydlen, gwewlch sgrîn tebyg i'r esiampl isod. Mae'r dudalen yma yn dangos y dogfennau mewn amlen. Agorir y system efo'r amlen gyntaf, on ellir newid hyn yn hawdd wrth ddewis yr amlen ydych eisio gweld yn y rhestr 'drop-down' dan teitl y dudalen.

Newid Amlen

Mae botymau ar y bar offer ar waelod y dudalen:

Uwchlwytho Dogfen

I uwchlwytho dogfen i'r amlen yma, cliciwch ar y botwm 'Mewnforio Dogfen'.

Am ddisgrifiad llawn o syt mae hyn yn gweithio gwelwch tudalen 'Uwchlwytho Dogfen'.

Creu Amlen

I greu oriel newydd cliciwch ar y botwm 'Creu Amlen' ar y bar offer.

Am ddisgrifiad llawn am syt i greu oriel, gwelwch y dudalen 'Creu Amlen'

Gweithio efo'r Dogfennau

Os ydych yn clicio ar un or dogfennau ar y dudalen, mae'r bwydlen ganlynol yn ymweld:

  • Gweld
  • Ailenwi
  • Copi
  • Dileu
  • Linciau

Gweld

Cliciwch ar yr optiwn yma i weld y ddogfen mewn ffenestr newydd.

Ailenwi

Mae clicio ar yr optiwn yma'n dod ar ffenestr canlynol i'r golwg:

Ysgrifennwch enw newydd i'r ddogfen.

Ysgrifennwch yr enw newydd yn y blwch yn lle'r enw gwreiddiol. Cofiwch ychwanegu'r estyniad (e.e. '.pdf' neu '.doc') fel yn y gwreiddiol, neu cewch preblemau'n lincio i'r ddogfen.

Os oes dogfen o'r un enw a'r enw newydd yn barod, mae'r rhybydd yma yn ymddangos:

Mae dogfen o'r enw yma'n bodoli'n barod. Ydych eisio ysgrifennu drosoti hi?

Copi

Mae'r optiwn yma yn creu copi o'r ddogfen. Enwir y ddogfen yr un fath a'r wreiddiol, ond efo 'Copi(n)_' o'i flaen, lle ellir n fod yn 1,2,3,.. i ddynodi faint o gopiau ydych wedi gneud.

Er enrhaifft, os ydych yn gwneud dau gopi o'r dogfen 'Agenda.pdf', bydd y y sgrîn yn edrych fel hyn:

Newid Amlen

Symud

Mae clicio ar yr optiwn yma'n dod a bwydlen fel hyn i'r golwg:

Copi

Mae'r optiwn yma yn gadael i chi symud y ddogfen i amlen arall.

Dewiswch yr amlen lle ydych eisio copi o'r dogfen.

Os oes dogfen o'r un enw yn barod yn yr amlen i lle ydych yn ceisio symud eich dogfen, fe welwch y rhybudd yma:

Mae dogfen o'r enw yma'n bodoli'n barod. Ydych eisio ysgrifennu drosoti hi?

Dileu

Dewiswch yr optiwn yma ar gyfer cael gwared o'r ddogfen oddi ar y wefan. (Bydd rhaid ail-lwytho'r ddogfen os ydych ei eisio yn ôl)

Wrth glicio ar yr optiwn yma ddeith y ffenestr yma i'r golwg:

Ydych yn sicr bod chi eisio dileu yr elfen yma?

Linciau

Wrth glicio ar y dewisiad yma mae rhestr o'r dudalenau wefan efo linc i'r ddogfen yma yn ymddangos mewn ffenestr newydd.

Os gliciwch ar un o'r llinellau yn y rhestr allwch fynd yn syth i olygu'r dudalen.