Elfennau Tudalen

Mae tudalen yn cynnwys cyfres o elfennau - testun, lluniau, sioe sleids a.y.y. Pan ydych yn clicio ar 'Golygu' dangosir elfennau'r dudalen fel hyn:

Tudalen: Cyflwyniad (home)

Diweddarwyd y 09-04-2015 21:57:59 gan John. Cyhoeddwyd y 09-04-2015 22:03:07 gan John.

--- Testun ---

Tyfu Hypethelma Disporia

Mae'r planhigyn yma'n tyfu'n dda unwaith mae wedi ymsefydlu. ...



--- Llun ---

Delwedd: galleries/gardens/crIm10010001.jpg.jpg

  • Lleoliaeth: de
  • Bordor: ymyl
  • Lliw Ffram: 59,128,128
  • Lled yn Pixels: 400px.

--- Gofod ---
--- Testun ---

Byddwch yn ofalys i beidio orddyfrio'r planhigyn, nid ydi'r planhigyn yma'n nofiwr da.



Ar waelod y dudalen mae bar efo botwm 'Gadael' sy'n mynd a chi'n ol i sgrin Golygu Tudalen.

Nodiwch: pan ydych yn pwyso (clicio) ar y botwm 'Gadael', cyfansoddir yr elfennau i dudalen sydd i weld ar y sgrin 'Golygu Tudalen'. Beth bynnag, dim ond copi golygol yw hwn. I wneud y dudalen yn weladwy i'r cyhoedd mae rhaid cyhoeddi'r dudalen.

Mathau o Elfennau

Mae sawl fath o elfen ar gael i roi ar eich tudalen. Mae'r rhestr berthnasol yn dibynnu ar pa fodiwl sydd wedi ei osod ar eich gwefan. Dyma'r elfennau mwya cyffredin, cliciwch ar yr enw i fyndi dudalen â disgrifiad llawn.

Trefnu Elfennau

I drefnu'r elfennau, e.e. symud, dileu, golygu elfen, neu gosod elfen newydd, cliciwch ar y panel glas golau sy'n dangos yr elfen. Bydd y bwydlen fel hyn yn ymddangos:

  • Symud
  • Dileu
  • Gosod Elfen Cyn
  • Gosod Elfen ar ôl

Os mae'r elfen â chlicwyd arni yn un â allwch olygu, bydd y bwydlen yn edrych fel hyn:

  • Golygu
  • Symud
  • Dileu
  • Gosod Elfen Cyn
  • Gosod Elfen ar ôl

Golygu

Nid yw'r optiwn yma ar gael i pob elfen. E.e. nid oes modd olygu 'teitl y tudalen' na 'llinell newydd'. (Os nad ydych yn fodlon efo'r teitl, allwch ddefnyddio elfen 'testun' yn ei le.)

I olygu'r elfen cliciwch ar 'Golygu'  a deith  sgrin golygu'r elfen i'r golwg. Mae gwahanol fathau o sgrin yn dibynnu ar fath yr elfen (testun, llun, a.y.y.). Disgrifir y wahanol sgriniau ar y tudalennau olynol:

Symud

All symud elfen i le arall ar y dudalen. Pan ddewisir yr opsiwn yma, gwelir y ffenestr yma:

Cliciwch ar lle ydych eisio symyd yr elfen yma.

Diddymu

Cliciwch ar yr elfen lle ydych eisio symud yr elfen wreiddiol, gwelir y ffenestr yma:

  • Gosod Elfen Cyn
  • Gosod Elfen ar ôl

Gallwch glicio ar y botwm 'Diddymu' unrhyw dro i orffen heb symud yr elfen.

Dileu

Pan ydych yn clicio ar yr opsiwn yma, mae'r ffenestr ganlynol yn ymweld:

Ydych yn sicr bod chi eisio dileu yr elfen yma?

Cadarnhau Diddymu

Mae o'n gwneud fel mae o'n deud!

Gosod Elfen Cyn

Gosod Elfen Ar Ol

Mae dewis un o'r optiynnau yma yn achosi fenestr rhywbeth tebyg i hyn i ddod i'r golwg:

  • Testun
  • Llun
  • Gofod
  • Ffurflen Cyswllt
  • Sioe Sleidiau
  • Teitl Tudalen
  • Digwyddiadau
  • Dewisiad Iaith
  • Oriel
  • Ychwaneg...

Fydd y rhestr yn dibynnu ar baramedrau’r wefan, am nad yw pob math o elfen ar gael pob tro.

Cliciwch ar y fath o elfen ydych eisio, osodir yr elfen ar y dudalen.

Tudalen Newydd

Os nid oes ddim cynnwys ar y dudalen eto, mae'r sgrîn yn edrych rhywbeth fel hyn:

Tudalen: Cyflwyniad (home)

Ni Ddiweddarwyd Erioed Ni Chyhoeddwyd Erioed

  • Nid oes elfen ar y panel yma. Dangosir cynnwys diffyg.

Ac ar ochr dde y bar offeryn ar waelod y dudalen mae'r botynmau:

Fel y gwelwch, mae 'na fotwm ar gyfer ychwannegu elfen. Mae hwn yn gweithio'n union yr un ffordd a ychwannegu elfen ar dudalen sy'n bodoli (gweler "Gosod Elfen" isod).