Llun

Nodwch: Mae'r dudalen yma yn esboni syt i osod llun ar dudalen eich wefan. Cyn medru gwneud hyn mae rhaid i chi uwchlwytho delwedd i oriel yn eich system gyntaf. I weld syt i wneud hyn gwelwch y dudalen am drefnu oriel.

Mae'r cyfleustra yma'n gadael i chi osod llun ar eich tudalen wefan. Mae lluniau yn ffordd dda o ychwanegu bywoliaeth i dudalen a denu pobl i mewn. Mae Cradur yn rhoi'r posibilrwydd i chi newid maint y llun, rhoi ffrâm lliw, gosod y llun ar y chwith, yng nghanol, neu ar y dde'r dudalen.

Mae'r esiampl ddilynol yn dangos y sgrin ar gyfer ychwanegu a golygu manylion delwedd.

Os ydych yn gosod llun newydd, bydd sgrîn tebyg i hyn i'w weld:

Delwedd:
Lleoliaeth:
Bordor:
Lliw Ffram:
Lled yn Pixels:
Lincio i:

Dewis/Newid Delwedd

Mae clicio ar y botwm 'Dewis' (neu 'Newid' os mae llun sydd wedi ei osod yn barod) yn dod a'r sgrîn canlynol mewn ffenestr newydd: