Cyfnewid Dogfennau

Mae bosib uwchlwytho unrhyw fath o ddogfen, rhai Microsoft Word, Excel, Publisher, hyd yn oed lluniau fformat JPEG neu PNG a.y.y.

Ond y fformat gorau i ddangos dogfen â testun ar y we yw PDF (Portable Document Format) gan Adobe. Medrir ddarllen dogfennau yn y fformat hwn ar bron bob cyfrifiadur, lle mae eisio meddalwedd arbennig e.e. i ddarllen dogfen MS Word.

Yr anfantais yw bod eisio meddalwedd arbennig i ysgrifennu dogfen PDF. Gyda rhai pecynnau ysgrifennu, e.e. Open Office, mae bosib i gadw'r ddogfen mewn fformat PDF (defnyddiwch 'Export as PDF'). Os nad oes yr optiwn yma gyda chi, allwch ddefnyddio meddalwedd ar y we ar gyfer cydnewid y fformat.

Zamzar

Beth fyddaf i yn arfer gwneud, ar gyfer e.e. cydnewid dogfen MS Word i PDF yw mynd i wefan Zamza.com.

Dyma syt i cyfnewid dogfen wrth ddefnyddio Zamzar:

  • Agorwch wefan Zamza.com ar eich porwr.
    • Cliciwch ar 'Choose Files' (Step 1).
      Mae hyn yn agor ffenestr lle allwch ddewis y ddogfen (e.e. .doc) ydych eisio copi PDF ohonni. Cliciwch ar y ddogfen a cliciwch Agor/Open.
    • Dewiswch PDF fel fformat yn y rhestr (drop-down) (Step 2).
    • Rhowch eich cyfeiriad ebost (Step 3).
    • Cliciwch 'Convert' (Step 4).
  • Mae eich dogfen yn cael ei uwchlwytho i Zamzar ar gyfer y cyfnewidiad.
  • Ewch i'ch system ebost. Ar ol chydig o funedau bydd ebost o Zamzar yn cyrraedd.
    • Agorwch yr ebost yma. Rhyw ddeg llinell i lawr welwch rhywbeth fel hyn:

      Alternatively click on the following link to download a copy of your converted file:
      http://www.zamzar.com/getFiles.php?uid=afh657thfy.....

       
    • Cliciwch ar y linc. Ar y dudalen sy'n agor cliciwch ar y botwm 'Download'. Yn dibynnu ar syt mae'ch porwr wedi ei osod, bydd y ddogfen PDF yn cael ei chadw mewn ffoldar o'r enw fel 'Lawrforio' neu 'Downloads', neu ydych medru dewis lle i roi y dogfen. Yn unrhyw achos, os gofynnir 'Cadw/Gweld' ('View/Save') dewiswch 'Cadw'.
  • Uwchlwythwch y ddogfen i'ch wefan.